split image of mascot attempt handkerchief jump and log chop

Scroll down to read this article in Welsh / Sgroliwch i lawr i ddarllen yr erthygl hon yn Gymraeg

Happy St. David’s Day 2021! St David, the patron saint of Wales, is celebrated annually on the 1 March.

Despite Wales' national lockdown disrupting the traditional celebrations, Welsh language television channel S4C made sure that was still a memorable day...

...by facilitating a whole load of record-breaking!

Although it was a little different from last year's tour around the country, each record again celebrated a unique aspect of Welsh tradition or culture.

Ten records have been broken in celebration of the day:

Most people in a online singing video relay 

There's nothing more rousing on St. David's Day than the sound of a Welsh choir.

However, due to the current national lockdown, choirs are unable to congregate and sing together. 

The Côr-ona Choir (UK) had a plan to combat this. 

Started by Catrin Angharad Jones during the first lockdown in March 2020, ‘Côr-ona!’ is an open Facebook group for sharing music virtually.

Catrin is a folk singer from Anglesey and also a school teacher in Ysgol Y Graig in Llangefni.

The Côr-ona Choir attempted the record for the most people in an online singing video relay to carry a tune together virtually. 

They achieved the record with 55 participants. 

The fastest darts Round the Clock  

Dorrian Thomas, Llew Bevan and Rhys Davis all attempted three darts records in Crymych.

Dorian, who plays in the Singles League in Cardigan, originally introduced Llew and Rhys to the darts world. 

Rhys is currently working towards obtaining a PDC (Professional Darts Corporation) Tour Card, and Llew (pictured above) has gone on to play in the Aberteifi Singles League.

The three darts records attempted were:

  • Most darts in Inner and outer bullseyes in one minute  
  • Highest darts score in three minutes (male) 
  • Fastest darts Round the Clock  

Unfortunately all attempts for the first two records were unsuccessful - but the story for the fastest darts Round the Clock record was very different! 

The record to beat was 2 mins 13 seconds, which had stood since 1972. 

First up was Dorrian, who achieved the record with 1 min 51 seconds - only for Rhys to then take the title with 1 min 45 seconds. 

Last up was Llew, who then unbelievably also achieved a record time of 1 min 19 seconds, taking the title home. 

@guinnessworldrecords

Most jumps over a handkerchief in 30 seconds: 45 by Tudur Phillips 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 @s4c

♬ original sound - Guinness World Records

Most jumps over a handkerchief in 30 seconds 

Tudur Phillips, who is an award-winning professional clog dancer and presenter, is no stranger to record-breaking. 

Last year he broke the record for the most candles extinguished by jump heel clicks in one minute, snuffing out 55. 

Extinguishing a candle in this manner is a move used in traditional Welsh clog dancing. 

He wanted to continue to to promote Welsh clog dancing in his attempts, and this time went for handkerchief jumping.

His attempt for most jumps over a handkerchief in 30 seconds was successful, with 45 jumps.

plane pull record holders with adjudicator alan

Fastest 20 m A320 aircraft pull by a team of two (female)

Sue Taylor-Franklin and Sam Taylor broke this record with a speedy time of 37.63 seconds.

Not only do these strongwomen break records together, but Sue and Sam are married and live in Llanrumney with their ten-year-old son.

They are currently placed as the 1st and 2nd strongest women in the Brits Women Masters 2020 – talk about a power couple!

They have also both qualified for World’s Strongest Woman 2021 which will take place in Florida – we hope this record-breaking workout helped them in their training! 

Fastest 20 m A320 aircraft pull (male)

This record was achieved by strongman Mark Jeanes, who’s nicknamed the ‘Welsh Dragon.’

He achieved an incredible time of 31.30 seconds.

In 2020, Mark placed first in the Wales Strongest Man competition and third in UK Strongman 2020.

Fastest time to chop 10 wooden logs in half with one hit 

Today, Alun Jones and Elgan Pugh both attempted log-related records.

Elgan is a log chopping/sawing expert from the Bala. 

In 2019, Elgan won the British Timbersports Championship for the 5th time in a row, and he has also competed at an international level.  

Alun is a forestry skills instructor and always attends timbersports competitions with Elgan. Alun lives in Denbigh. 

Elgan achieved the first record for the fastest time to chop 10 logs in one hit with 7.56 seconds, closely followed by Alun with the record for most log slices sawn in three minutes by a chainsaw (20).

Lastly, they both attempted the record for the most log slices sawn by hand in three minutes

Alun was up first and broke the record with a respectable total of 6. However, Elgan bettered the record on his go, managing to saw a total of 9 log slices. 

We’re sure their arms are aching after those tiring record attempts! 

rodney the dragon rugby ball touches

Most rugby ball touches with the feet by a mascot in one minute 

Today mascots from across Wales attempted three records: 

  • Fastest 100 m by a mascot 
  • Most consecutive football (soccer) touches by a mascot 
  • Most rugby ball touches with the feet by a mascot in one minute

The mascots vying for one of these records were Cochyn (Scarlets), Ozzie (Ospreys), Rodney the Dragon (Newport Dragons), Bartley Bluebird (Cardiff City F.C.) and Cyril the Swan (Swansea F.C.).

Unfortunately, all mascots fell short of achieving the first two records – but one very talented red mascot managed to break the final record. 

Rodney the dragon smashed the most rugby ball touches with the feet by a mascot in one minute, achieving 24 touches and total bragging rights amongst his mascot peers! 

Most 'around the moon' football (soccer) control tricks in 30 seconds

Last but certainly not least, Ash Randall (UK) managed to achieve this football freestyle record with 25 'around the moon' football (soccer) control tricks.

An 'around the moon' trick is a move that sees the football start on the back of the neck before being flicked into the air and completing a revolution around the head before resting at the original position.

In addition to this record, Ash broke two on St. David’s Day 2020 – the most football (soccer) knee catches in 30 seconds (23) and the most football (soccer) ‘hotstepper’ ball control tricks in one minute (56). He also holds multiple other record titles. 

And that wraps up an amazing day of record-breaking in Wales.

Now it’s time for the new record holders to put their feet up with a Welsh cake and a well earned cup of tea.

Happy St. David’s Day! 

In Welsh:

Dydd Gŵyl Dewi 2021 Hapus!

Rydyn ni’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru, ar 1 Mawrth bob blwyddyn.

Er gwaetha’r ffaith bod y cyfnod clo cenedlaethol yn tarfu ar y dathliadau traddodiadol yng Nghymru, mae S4C yn gwneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yn ddiwrnod i’w gofio…

...drwy hwyluso llond gwlad o dorri recordiau!

Er y bydd ychydig yn wahanol i’r daith o amgylch y wlad y llynedd, unwaith eto bydd pob record yn dathlu agwedd unigryw ar draddodiad neu ddiwylliant Cymru.

Mae deg record wedi'u torri’n barod i ddathlu'r diwrnod:

Y nifer mwyaf o bobl yn canu o un i un mewn fideo ar-lein 

Does dim byd gwell ar Ddydd Gwyl Dewi na sŵn côr o Gymru.

Ond oherwydd y clo cenedlaethol, dydy corau Cymru ddim yn gallu dod ynghyd i ganu ar hyn o bryd.

Ond cafodd Côr-ona syniad ynglŷn â sut i ddatrys hyn.

Wedi’i sefydlu gan Catrin Angharad Jones yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, mae ‘Côr-ona!’ yn grŵp agored ar Facebook ar gyfer rhannu cerddoriaeth yn rhithiol.

Mae Catrin yn gantores werin o Ynys Môn a hefyd yn athrawes yn Ysgol Y Graig, Llangefni.

Ceisiodd Côr-ona osod y record am y nifer mwyaf o bobl i basio alaw yn rhithiol, o un i un, mewn fideo ar-lein.

Fe gyflawnon nhw’r record gyda 55 o gantorion.

Rownd y Cloc dartiau yn yr amser cyflymaf

Ceisiodd Dorian Thomas, Llew Bevan a Rhys Davis dorri tair record dartiau yr un yng Nghrymych.

Dorian, sy'n chwarae yng Nghynghrair Senglau Aberteifi, gyflwynodd Llew a Rhys i fyd dartiau’n wreiddiol.

Ar hyn o bryd mae Rhys yn gweithio tuag at gael Cerdyn PDC (y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol), ac mae Llew yn chwarae yng Nghynghrair Senglau Aberteifi.

Y tair record ddartiau oedd:

  • Y nifer mwyaf o ddartiau yn y bullseyes mewnol ac allanol mewn munud
  • Y sgôr dartiau uchaf mewn tri munud (gwryw)
  • Rownd y Cloc dartiau yn yr amser cyflymaf

Yn anffodus bu pob ymgais i dorri’r ddwy record gyntaf yn aflwyddiannus - ond roedd stori’r Rownd y Cloc dartiau yn wahanol iawn!

Y record i’w churo oedd 2 funud 13 eiliad, a oedd wedi sefyll ers 1972.

Dorrian aeth gyntaf, ac fe gyflawnodd y record mewn 1 munud 51 eiliad - dim ond i Rhys gipio'r teitl wedyn mewn 1 munud 45 eiliad.

Ac yn olaf daeth Llew, ac fe lwyddodd yntau i gyflawni’r gamp mewn 1 munud 19 eiliad, gan dorri’r record a chipio’r teitl.

Y nifer mwyaf o neidiau dros facyn mewn 30 eiliad

Mae Tudur Phillips, sy'n glocsiwr proffesiynol gwobredig ac y gyflwynydd, wedi hen arfer torri recordiau.

Y llynedd fe dorrodd y record am ddiffodd y nifer mwyaf o ganhwyllau gyda chliciau sawdl naid mewn un munud, pan ddiffoddodd 55 ohonyn nhw.

Mae diffodd cannwyll fel hyn yn un o’r camau a ddefnyddir mewn clocsio Cymreig traddodiadol.

Roedd am ddal i hyrwyddo camau clocsio Cymreig yn ei ymdrechion eleni, a’r tro hwn aeth ati i neidio dros facyn.

Roedd ei ymgais i wneud y nifer mwyaf o neidiau dros facyn mewn 30 eiliad yn llwyddiannus, gyda 45 o neidiau.

Tynnu awyren A320 20m gan dîm o ddwy yn yr amser cyflymaf

Torrodd Sue Taylor-Franklin a Sam Taylor y record hon mewn 37.63 eiliad.

Nid yn unig mae'r menywod cryf yma’n torri recordiau gyda'i gilydd, ond mae Sue a Sam hefyd yn briod ac yn byw yn Llanrhymni gyda'u mab deg oed.

Ar hyn o bryd nhw yw’r fenyw gryfaf ac ail gryfaf yn y Brits Women Masters 2020 - sôn am gwpl cryf!

Mae'r ddwy hefyd drwodd i gystadleuaeth Menyw Gryfa’r Byd 2021 a fydd yn digwydd yn Florida - gobeithio bod torri’r record yma wedi helpu’u paratoadau!

Tynnu awyren A320 20m yn yr amser cyflymaf (gwryw)

Torrwyd y record hon gan un o ddynion cryfaf Cymru, Mark Jeanes, neu’r ‘Welsh Dragon.’

Fe wnaeth hyn yn yr amser anhygoel o 31.30 eiliad.

Yn 2020, daeth Mark yn gyntaf yng nghystadleuaeth Dyn Cryfaf Cymru ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Dyn Cryfaf y DU 2020.

Dorri 10 boncyff pren yn eu hanner gydag un trawiad yn yr amser cyflymaf

Mae Elgan Pugh yn arbenigwr torri/llifio coed o'r Bala.

Yn 2019, enillodd Elgan Bencampwriaeth Timbersports Prydain am y 5ed tro yn olynol, ac mae hefyd wedi cystadlu ar lefel ryngwladol.

Mae Alun Jones yn hyfforddwr sgiliau coedwigaeth ac mae bob amser yn mynd i gystadlaethau torri coed gydag Elgan. Mae Alun yn byw yn Ninbych.

Heddiw, ceisiodd Alun ac Elgan dorri recordiau’n gysylltiedig â choed.

Torrodd Elgan y record gyntaf am dorri 10 boncyff mewn un ergyd yn yr amser cyflymaf, mewn 7.56 eiliad, ac yna torrodd Alun y record am y nifer mwyaf o sleisys o goed wedi’u llifio gyda llif gadwyn mewn tri munud (20).

Yn olaf, ceisiodd y ddau ohonyn nhw dorri’r record am y nifer mwyaf o sleisys o goed wedi’u llifio â llaw mewn tri munud

Alun aeth gyntaf ac fe dorrodd y record gyda chyfanswm parchus iawn o 6. Ond yna llwyddodd Elgan i wella'r record drwy lifio 9 sleisen.

Rydyn ni'n siŵr bod eu breichiau'n boenus ar ôl y gwaith caled yna!

Y nifer mwyaf o gyffyrddiadau a phêl rygbi gyda’r traed gan fasgot mewn munud

Heddiw ceisiodd masgots o bob rhan o Gymru dorri tair record:

  • 100m yn yr amser cyflymaf gan fascot
  • Y nifer mwyaf o gyffyrddiadau â pêl-droed yn olynol gan fasgot
  • Y nifer mwyaf o gyffyrddiadau a phêl rygbi gyda’r traed gan fasgot mewn munud

Y masgots sy'n cystadlu am un o’r recordiau yma Cochyn (Scarlets), Ozzie (Gweilch), Rodney’r Ddraig (Dreigiau Casnewydd), Bartley Bluebird (Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd) a Cyril yr Alarch (Clwb Pêl-droed Abertawe).

Yn anffodus, methodd pob masgot â thorri'r ddwy record gyntaf - ond llwyddodd un masgot coch talentog iawn i dorri'r record olaf.

Chwalodd Rodney’r Ddraig y record am y nifer mwyaf o gyffyrddiadau â pêl rygbi gyda'r traed gan fasgot mewn munud, gan wneud 24 o gyffyrddiadau ac ennill yr hawl i frolio ymysg ei ffrindiau!

Y nifer mwyaf o driciau rheoli pêl-droed ‘around the moon’ mewn 30 eiliad

Yn olaf ond yn sicr nid yn lleiaf, llwyddodd Ash Randall (DU) i dorri'r record pêl-droed dull rhydd yma gyda 25 o driciau rheoli pêl-droed 'around the moon'.

Mae tric 'around the moon' yn symudiad lle mae’r bêl-droed yn cychwyn ar gefn y gwddf cyn cael ei fflicio yr holl ffordd o amgylch y pen cyn gorffwys eto yn y safle gwreiddiol.

Yn ogystal â’r record yma, torrodd Ash ddwy record arall ar Ddydd Gŵyl Dewi 2020 - y nifer mwyaf o ‘knee catches’ pêl-droed mewn 30 eiliad (23) a’r nifer mwyaf o driciau rheoli pêl-droed ‘hotstepper’ mewn munud (56). Mae ganddo nifer o recordiau eraill hefyd.

A dyna ddiwedd ar ddiwrnod anhygoel o dorri recordiau yng Nghymru.

Nawr mae'n hen bryd i holl ddeiliaid y recordiau newydd roi eu traed i fyny gyda phaned o de a phice ar y maen haeddianol iawn!.

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!