St-david-day-header

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Happy St. David’s Day! 

From massive collections to hundreds singing the Urdd Gobaith Cymru’s anthem, Wales continues to be at the forefront of record-breaking achievements, and St. David’s Day is no exception. 

Scroll down to read this article in Welsh/ Sgroliwch i lawr i ddarllen yr erthygl hon yn Gymraeg

Welsh language television channel S4C teamed up with Guinness World Records for the third consecutive year to celebrate their patron saint.  

Many records have been broken in celebration of the day, showcasing the talents of Wales – its people, its culture, and its pride. 

Here’s a round-up of the records that have been smashed for St. David’s Day 2022! 

Lowri in front of flag with certificate

Largest flag unfurled by zip wire 

Lowri Morgan (UK) officially broke the record for the largest flag unfurled by zip wire.  

The record was broken with a massive Welsh flag that measured a jaw-dropping 101.4 m² (1091.46 ft²), displaying a giant "Y Ddraig Goch", the red dragon that serves as the heraldic symbol of Wales.  

The red of the dragon of Cadwaladr, King of Gwynedd, as well as the white and green of the background stood out against the cloudy sky, setting a new world record. 

The giant flag was hoisted on Valentine’s Day at Zip World Tower, Hirwaun, Wales. 

Read more about this attempt here!

Jemma Stubbs with atlas sphere and certificate

Most weight lifted by Atlas stone lifts in one minute 

Lifting a total of 1,150 kg strongman Jason Jones (UK) snatched the title for most weight lifted by Atlas stone lifts in one minute (male) from the American Logan Gelbrich (USA), who previously heaved a total of 1,122.64 kg.  

For this record, Jason met his desired goal of 10 reps with a 115 kg Atlas stone. 

But that wasn’t the only record broken at Wrexham (Wales) involving the iconic spherical stone. 

The day also saw a new record for the most weight lifted by Atlas stone lifts in one minute (female).  

By picking up an Atlas stone that weighed 90kg eight times in one minute, Jemma Stubbs (UK) surpassed her goal and set a new world record.  

 With a total of 720 kg, Britain's and Wales' Strongest Woman has beaten the record set in 2017 by Michelle Kinney (USA) with a difference of 180.23 kg. 

Double decker pulling GWR Cymru

Fastest time to pull a double decker bus 20 m  

Many, many records leave us holding our breath, demonstrating how strength, concentration and resilience can make possible what seems out of this world. 

 In Wrexham (Wales, UK), two more records were smashed for the fastest time to pull a double decker bus 20 m (male) and fastest time to pull a double decker bus 20 m (female). 

 The fastest time to pull a double decker bus 20 m (male) was achieved by Gareth Pugh (UK), with an incredible time of 31.382 seconds.  

 The same title for the female category, fastest time to pull a double decker bus 20 m (female), was achieved with 41.624 seconds by Nicky Walters (UK). 

But a double decker wasn’t enough! 

The cement truck Nicky pulled for the heaviest vehicle pulled (upper body) record attempt

On the same day, Nicky also earned a Guinness World Records title for the heaviest vehicle pulled (upper body) (female).  

She pulled the amazing weight of 8,260 kg, using a cement truck for the attempt!  

"Oh, maybe I’ll pull this truck for 10 m," declared Nicky upon knowing that the minimum requirement was 5 meters. 

Jemma Stubbs with certificate

Heaviest car deadlifted in one minute (female)  

Jemma Stubbs officially holds the record for the heaviest car deadlifted in one minute (female)

Britain’s strongest woman achieved a second world record by deadlifting a car with 16 reps in just time 26.786 seconds. The total weight lifted during this attempt is 2,985.60 kg. 

The vehicle was driven onto a frame, and Jemma proceeded to heft the car off the ground rear end first. 

Fastest mile controlling a tennis ball with cert

Fastest mile controlling a tennis ball   

Josh Griffiths ran the fastest mile controlling a tennis ball

The marathon runner completed the attempt in 5 min 32.95 sec as verified in Cardiff, Wales. 

He’s beaten the previous time (5 min 52 sec) achieved by Christian Roberto López Rodríguez (Spain) in Toledo.  

Fastest time to throw a rubber chicken with cert

Farthest throw of a rubber chicken  

Welsh Paralympian Aled Sion Davies (UK) has achieved the record for the farthest throw of a rubber chicken with a distance of 20.82 meters (68.307 ft). 

Aled broke the record at the National Indoor Athletics, Cardiff. 

The Welsh athlete was born with longitudinal fibular deficiency of the right leg, which is caused by the congenital shortening (or complete absence) of the calf bone.  

With a flourishing international career, Aled also won the gold medal at the recent 2020 Summer Paralympics in Tokyo, Japan, in the men's shot put F63 event. 

Ffwrnes Pizza with certificate

Most pizzas sliced in three minutes

The first of March may also be pancake day but, in Cardiff, Rory Coughlan-Allen (UK) was celebrating with Neapolitan pizza!

Rory achieved the record title for the most pizzas sliced in three minutes (17) at Ffwrnes Pizza. Ffwrnes can be found in the heart of Cardiff Market. According to their website, the venture began "from the love of pizza, specifically Neapolitan pizza, combining traditional Italian know how and the best produce Wales has to offer".

What a yummy way to celebrate for the ‘Bois y Pizza’ (Pizza boys)!

Urrd mascot and adjudicator with certs

Most videos of people singing the same song uploaded to Facebook and Twitter in one hour 

Wales's largest national youth movement, Urdd Gobaith Cymru (UK), celebrated its 100th birthday on the 25th of January 2022.  

 And what better way to commemorate this milestone, than with two Guinness World Records titles? 

Between 10.45 am and 11.45 am in the morning, the Welsh organization achieved the titles for: 

  • Most videos of people singing the same song uploaded to Facebook in one hour (461 in total) 
  • Most videos of people singing the same song uploaded to Twitter in one hour (1176 in total) 

 Many schools, associations, Hollywood stars and Welsh folk joined the celebration, singing the anthem Hei Mr Urdd.  

Together, they honoured and acknowledged the remarkable contribution that the Urdd has given, and continues to give, to the Welsh community in the last century. 

urrd mascotte with cupcakes

What an amazing day of record-breaking for Wales! 

 We already can’t wait to see what records will be broken next year. But, for now, help yourself to some Welsh cakes, or some pice bach, and celebrate St. David’s Day with us.  

Dydd Gŵyl Dewi Hapus! 

Welsh:

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
O gasgliadau enfawr i gannoedd yn canu anthem Urdd Gobaith Cymru, mae Cymru’n dal i fod ar flaen y gad o ran torri recordiau byd, a dydy Dydd Gŵyl Ddewi ddim yn eithriad yn hyn o beth.

Mae’r sianel deledu Gymraeg, S4C, wedi ymuno â Guinness World Records am y drydedd flwyddyn yn olynol i ddathlu nawddsant Cymru.

Mae llawer o recordiau wedi’u torri wrth ddathlu’r diwrnod, gan arddangos doniau Cymru – ei phobl, ei diwylliant, a’i balchder.

Dyma gofnod o’r recordiau a gafodd eu chwalu ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2022!

Y fflag fwyaf i gael ei dadrolio’n defnyddio weiren wib

Torrodd Lowri Morgan (DU) y record, yn swyddogol, ar gyfer y fflag fwyaf i gael ei dadrolio’n defnyddio weiren wib.

Cafodd y record ei thorri gyda baner Cymru enfawr a oedd yn mesur 101.4 m² (1091.46 tr²), yn arddangos “Draig Goch” anferth – symbol herodrol Cymru.

Roedd coch draig Cadwaladr, Brenin Gwynedd, yn ogystal â gwyn a gwyrdd y cefndir, i’w gweld yn erbyn yr awyr gymylog, wrth osod record byd newydd.

Cafodd y faner enfawr ei chodi ar Ddydd Sant Ffolant yn Zip World Tower, Hirwaun, Cymru.

Darllenwch fwy am y cyflawniad anhygoel hwn yma.

Codi’r pwysau mwyaf mewn munud gan ddefnyddio cerrig atlas 

Gan godi cyfanswm o 1,150 kg, cipiodd y dyn cryf, Jason Jones (DU), y teitl am godi’r pwysau mwyaf mewn munud gan ddefnyddio cerrig atlas (gwryw) oddi ar yr Americanwr, Logan Gelbrich (UDA), a oedd wedi codi cyfanswm o 1,122.64 kg cyn hyn.

Ar gyfer y record hon, llwyddodd Jason i gyglawni ei nod o 10 rep gyda charreg Atlas 115 kg.

Ond nid dyna’r unig record i gael ei thorri yn Wrecsam (Cymru) yn cynnwys y garreg gron arbennig hon.

Ar yr un diwrnod, torrwyd y record am godi’r pwysau mwyaf mewn munud gan ddefnyddio cerrig atlas (benyw) hefyd.

Drwy godi carreg Atlas yn pwyso 90 kg wyth gwaith mewn munud, llwyddodd Jemma Stubbs i wella ar ei nod a gosod record byd newydd.

Gyda chyfanswm o 720 kg, mae Menyw Gryfaf Cymru a Phrydain wedi curo’r record a osodwyd yn 2017 gan Michelle Kinney (UDA), gyda gwahaniaeth o 180.23 kg.

Tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf 

Mae sawl record yn gwneud i ni ddal ein gwynt, gan ddangos sut y gall cryfder, canolbwyntio a gwydnwch wneud i’r hyn sy’n ymddangos yn amhosib, yn bosib.

Yn Wrecsam (Cymru, y DU), cafodd dwy record arall eu chwalu, sef tynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (gwryw) a thynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (benyw).

Cyflawnwyd y record o dynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (gwryw) gan Gareth Pugh (DU), gydag amser anhygoel o 31.382 eiliad.

Cyflawnwyd yr un teitl ar gyfer y record o dynnu bws deulawr 20 metr yn yr amser cyflymaf (benyw) gan Nicky Walters (DU), mewn 41.624 eiliad.

Ond doedd bws deulawr ddim yn ddigon!

Ar yr un diwrnod, enillodd Nicky hefyd deitl Guinness World Records am dynnu’r cerbyd trymaf (rhan uchaf y corff) (benyw).

Tynnodd y pwysau anhygoel o 8,260 kg, gan ddefnyddio lori sment ar gyfer yr ymgais!

“O, ‘falle y gwna i dynnu’r cerbyd am 10 metr,” meddai Nicky wedi iddi gael gwybod mai’r lleiafswm oedd 5 metr.

Celain-godi’r car trymaf mewn munud

Jemma Stubbs sy’n dal y record yn swyddogol am gelain-godi’r cerbyd trymaf mewn munud (benyw).

Cyflawnodd menyw gryfaf Prydain ail record byd drwy gelain-godi cerbyd gydag 16 rep mewn dim ond 26.786 eiliad.

Cyfanswm y pwysau a godwyd yn ystod yr ymgais hon oedd 2,985.60 kg.

Gyrrwyd y cerbyd ar ffrâm, ac aeth Jemma ati i godi’r car oddi ar y ddaear – y pen ôl yn gyntaf.

Y filltir gyflymaf yn rheoli pêl dennis

Josh Griffiths redodd y filltir gyflymaf yn rheoli pêl dennis.

Curodd y rhedwr marathon yr amser blaenorol (5 munud 52 eiliad) a gyflawnwyd gan Christian Roberto López Rodríguez (Sbaen) yn Toledo.

Mae wedi curo’r amser blaenorol (5 munud 52 eiliad) a gyflawnwyd gan Christian Roberto López Rodríguez (Sbaen) yn Toledo.

Taflu iâr rwber y pellter mwyaf

Mae’r athletwr Paralympaidd o Gymru, Aled Sion Davies (DU), wedi cyflawni’r record am daflu iâr rwber y pellter mwyaf, gyda phellter o 20.82 medr (68.307 troedfedd).

Torrodd Aled y record yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Ganwyd yr athletwr o Gymru gyda hemi-hemilia yn ei goes dde, sy’n cael ei achosi gan fyrhau cynhenid (neu absenoldeb llwyr) asgwrn y grimog.

Gyda’i yrfa ryngwladol lewyrchus, enillodd Aled fedal aur hefyd yng Ngemau Paralympaidd yr Haf 2019 yn Tokyo, Japan yn y gystadleuaeth taflu maen i ddynion (F63).

Sleisio’r nifer fwyaf o bitsas mewn 3 munud

Efallai fod y cyntaf o Fawrth yn Ddiwrnod Crempog hefyd ond, yng Nghaerdydd, roedd Rory Coughlan-Allen (DU) yn dathlu gyda phitsa Neapolitaidd.

Llwyddodd Rory i ennill teitl record y byd ar gyfer sleisio’r nifer fwyaf o bitsas mewn tair munud (17) yn Ffwrnes Pizza.

Gallwch ddod o hyd i Ffwrnes Pizza yng nghanol Marchnad Caerdydd. 

Yn ôl eu gwefan, dechreuodd y fenter “o gariad tuag at bitsa, yn enwedig pitsa Neapolitaidd, gan gyfuno arbenigedd Eidalaidd traddodiadol gyda’r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig”.

Am ffordd flasus o ddathlu i ‘Fois y Pizza’!

Uwchlwytho’r nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i Facebook a Twitter mewn awr

Dathlodd mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru (DU), ei ben-blwydd yn 100 oed ar 25 Ionawr 2022.

A pha ffordd well o nodi’r garreg filltir hon na chyda dau deitl Guinness World Records?

Rhwng 10.45 am a 11.45 am, enillodd y mudiad Cymreig y teitlau ar gyfer:

  • Uwchlwytho’r nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i Facebook mewn awr (cyfanswm o 461)
  • Uwchlwytho’r nifer fwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i Twitter mewn awr (cyfanswm o 1176)

Ymunodd llawer o ysgolion, cymdeithasau, sêr Hollywood a phobl Cymru â’r dathlu, gan ganu’r anthem Hei Mr Urdd.

Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw anrhydeddu a chydnabod y cyfraniad rhyfeddol y mae’r Urdd wedi’i wneud, ac yn parhau i wneud, i fywyd Cymru yn y can mlynedd diwethaf.

Am ddiwrnod anhygoel o dorri recordiau i Gymru!

Allwn ni ddim aros i weld pa recordiau fydd yn cael eu torri y flwyddyn nesaf!